Newyddion - Mawrth 2015

Wrth i’r tymor pysgota ddod i’n cyfarfod hoffwn ddymuno “Pysgota Da” i bawb sy’n darllen y dudalen newyddion yma.

YMDDIRIEDOLAETH Y BRITHYLL GWYLLT
Newyddion newydd sbon bod arwerthiant Ymddiriedolaeth y Brithyll Gwyllt (WTT) a gaeodd ar Fawrth 12fed, wedi mwy na byw hyd at y disgwyliadau. Gyda dros £58,000 wedi ei godi yn arwerthiant 2014, y gobaith oedd y buasai arwerthiant eleni yn cyrraedd £60,000. Eleni, cododd yr arwerthiant y swm mawreddog o £68,597! Llongyfarchiadau i’r ymddiriedolaeth a “Diolch “ mawr i bawb a gymerodd rhan yn yr arwerthiant.

NEWYDDION YR EOG
GWCT. Cyrhaeddodd Bill Beaumont yng Nghastell Rhuthun a chyflwynodd i’r rhai oedd yn bresennol, gopi o’i adroddiad “Salmon Research Report 2013”. Rhoddodd hwn gipolwg unigryw i’r ffordd y mae Bill a’i gydweithwyr wedi bod yn gwneud eu hymchwil mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn Ffrainc. Fel llawer o waith ymchwil, mae ymchwil Bill efallai wedi codi mwy o gwestiynau yn hytrach na’u hateb. Mae’r dechnoleg, nid yn unig yn cyfrif pysgod, ond yn cymryd llun ohonynt – sut ydych yn dosbarthu llun o benhwyad gyda brithyll yn ei enau? I ofyn am gopi o’r adroddiad cysylltwch gyda’r GWCT ar 01929 401894 neu ewch i’w safwe www.gwct.org.uk.

ABER YR AFON DDYFRDWY, GOGLEDD CYMRU
Ar Fawrth 5ed, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru rybudd o'i bwriad i wneud gorchymyn i wahardd y defnydd o rwydi seine a trammel yn Aber Afon Ddyfrdwy. Mae gan wrthwynebwyr 28 diwrnod i ymateb i hyn. Er y gallai hyn effeithio ar y diwydiant cychod pysgota bydd, yn ddiau, yn cael ei weld gyda llawer o obaith gan bysgotwyr.
YR ALBAN. Mae ymgynghoriad wedi cael ei lansio gan Lywodraeth yr Alban ynghylch a ddylid gwahardd lladd eog gwyllt. Gallir mynegi barn tan Ebrill 30ain drwy ymweld â http://po.st/SalmonLicence neu www.scotland.gov.uk/Publications/2015/02/4158. Mae'r cynnig yn cynnwys y syniad o dagio. I'r rhai ohonom sydd wedi defnyddio system tagio dramor, mae'n weddol amlwg bod y cynnig hwn yn cynnwys elfennau o "fenthyg" gan systemau eraill. Fy marn i, a fynegais yn gyhoeddus pan oedd canŵio yn daten boeth, yw na ellwch chi gymryd rhai darnau o system arall a gobeithio y gwnaiff weithio! Am sylwadau ysgrifenedig da, darllenwch y golofn olygyddol yn Trout & Salmon mis Ebrill. Os ydych wedi mwynhau’r hyfrydwch pur o roi eog gwyllt yn achlysurol ar eich bwrdd cinio, mae angen i chi leisio eich barn - neu byddwch yn dod yn llawer mwy cyfarwydd gyda thuniau John West!

FISH LEGAL YN ENNILL!
Mae Fish Legal wedi llwyddo yn eu hachos llys yn erbyn Gwasanaethau Dŵr Swydd Efrog ac United Utilities. Mae’r canlyniad yn golygu bod rhaid cydymffurfio gyda’r gyfraith ar ddarparu gwybodaeth amgylcheddol i'r cyhoedd a.y.b. Os byddwch angen gwybodaeth am y dŵr rydych yn ei ddefnyddio, yna mae'n ofynnol i'r cwmni dŵr dan sylw ddarparu hynny ar eich rhan.

AC YN OLAF
Unwaith eto, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael ei hun i mewn i ychydig o drafferth. Rhaid cyfaddef eu bod rhwng y graig ddiarhebol a’r lle caled y tro hwn, ond y canlyniad i’r gwaith gwrth-lifogydd ger Llanrwst, a gostiodd dros £ 700K, yw bod mannau silio pysgod wedi cael eu heffeithio. Cynhaliwyd y gwaith yn ystod y tymor silio ac mae wedi arwain at gael gwared o’r graean silio, am eu bod yn dweud ei fod wedi ei halogi, gyda'r afon yn awr yn llifo i lawr yr hyn sy’n edrych yn debyg i lithr concrid.

Os ydych yn dilyn i fyny unrhyw beth o’r safwe yma os gwelwch yn dda nodwch eich ffynhonnell.