Newyddion - MEDI / HYDREF

SIACEDI BYWYD

Yn Newyddion Gorffennaf - Awst, cyffyrddais â phwysigrwydd siacedi bywyd (BODDI!). Yn fuan ar ôl i'r dudalen ymddangos yn gyhoeddus aeth dwy gyfnither ar goll ym Mae Galway, Yr Iwerddon.

Ar y 12fed o Awst eleni, roeddent wedi mynd â'u byrddau padlo i Draeth Furbo ar arfordir gogleddol y Bae fin nos. Nid oedd Sara (23) ac Ellen (17) yn disgwyl iddi fod yn fenter fer, ac felly, nid oeddynt yn gwisgo yn gwisgo siwtiau gwlyb, ac yn fodlon yn eu gwisgoedd nofio a'u siacedi bywyd. Gyda newid sylweddol yn y tywydd cawsant eu cario allan i'r môr ac yn methu dychwelyd i'r lan. Wrth i'r tywydd ddirywio - gyda glaw trwm, mellt a tharanau, a’r tonnau ‘n cynyddu, dechreuwyd ar waith achub ar raddfa fawr am 2200 o'r gloch. Yn y cyfamser, cymerodd y ddwy ferch, a oedd yn mynd ymhellach ac ymhellach allan i'r môr, eu camau eu hunain. Roeddent yn aros mor ddigynnwrf ag y gallent, wedi aros gyda'i gilydd ac wedi clymu'r ddau fwrdd padlo gyda'i gilydd. Roedd chwiliad awyr a môr enfawr ar y gweill gyda'r ddwy ferch, yn eironig, yn gallu gweld yr hofrenyddion o bryd i'w gilydd. Heb unrhyw arwydd o'r merched a'r gwaethaf yn cael eu hofni, gyda thoriad gwawr roedd y pysgotwr Patrick Oliver a'i fab deunaw oed Morgan gyda’u syniadau eu hunain o ble y gallai'r tywydd fod wedi mynd â’r merched!

Aethant allan tuag at Ynysoedd Aran yng ngheg Galway Bay. Sylwodd Morgan ar symudiad tua dwy filltir i'r de-orllewin o Inis Oirr. Y symudiad  oedd y merched yn chwifio eu padlau. Roeddent wedi llwyddo i fachu gafael ar offer dal cranc,  a oedd fod wedi cael eu symud yr wythnos flaenorol. Roedd eu pymtheg awr yn y môr wedi dod i ben yn hapus, er llawenydd amlwg pawb. Pe na baent wedi gallu dal gafael ar yr offer dal crancod byddent wedi parhau i arnofio allan i'r Iwerydd! Dywedodd John Leech, Prif Swyddog Gweithredol Diogelwch Dŵr Iwerddon "... roeddent yn gwisgo siacedi bywyd, sy'n hanfodol yn y sefyllfaoedd yma". Sut fyddech chi'n rhoi gwerth ar y siacedi bywyd yma?

DIWRNOD MUDO PYSGOD Y BYD

Erbyn hyn mae llai na 50 diwrnod i Ddiwrnod Mudo Pysgod y Byd! Mae hwn yn ddigwyddiad traws fyd eang gyda rhywbeth i bawb. Ewch i www.fishmigration.org i weld beth sy'n digwydd. Hyd yma, cafodd y gweminar aml-genedl "Dam Removal Europe" argraff fawr arnaf a gwneud i mi feddwl. Tynnwch y rhwystrau allan o afon a gwyliwch y pysgod yn symud i fyny'r afon. Peidiwch â cholli hwn.

YMDDIRIEDOLAETH Y BRITHYLL GWYLLT (WTT)

Mae'r sefydliad elusennol hwn yn parhau i fynegi ei werthfawrogiad o’r gefnogaeth a gafodd yr Arwerthiant yn gynharach yn y flwyddyn – er gwaethaf y cloi. Mae'r arian a dderbyniwyd yn helpu’r sefydliad i ddilyn ei amcanion fel elusen cadwraeth afonydd sy'n ysbrydoli ac yn helpu pawb i ddiogelu cynefin ar gyfer brithyll a phob bywyd gwyllt. Ewch www.wildtrout.org i weld y stori lawn. Er mwyn galluogi mwy o waith i ddigwydd, mae WTT wrthi'n ceisio cynyddu aelodaeth ac yn gwahodd yr aelodau presennol i "gofrestru ffrind". Efallai mai'r cymorth mwyaf i glybiau a pherchnogion glannau'r afon ei dderbyn yw’r "Ymweliad Ymarferol" lle rhoddir cymorth a chyngor gyda'r nod o wella a rheoli eich cynefin lleol yn well.

CYNGHRAIR EOG COLL (MSA)

Daeth newyddion yn rhifyn yr Hydref o’r cylchgrawn Trout & Salmon fod yr elusen Salmon & Trout Conservation wedi tynnu'n ôl o'r Cynghrair Eog Coll -  MSA. Yn syml, mae'n ymddangos bod gwrthdaro mewn cysylltiad â dulliau o ffermio eog ac ofn y gallai'r peiriant cysylltiadau cyhoeddus “gweithgaredd dyframaethu sy'n niweidiol i'r amgylchedd ... ." Mae hynny’n gadael Ymddiriedolaeth Eogiaid yr Iwerydd (AST), GWCT a'r Ymddiriedolaeth Pysgota yn y Cynghrair Eog Coll - MSA.

ANEMIA HEINTUS EOG (ISA)

Mae cymuned eog fferm Norwy wedi eu siglo ar ôl darganfod 20 achos o ISA eleni mewn safleoedd dyframaethu yng ngogledd y wlad. Mae hwn yn gyflwr heintus ac anwelladwy iawn. Mae hefyd yn galw am hysbysu holl lywodraethau'r UE am achosion tybiedig. I ddarganfod mwy o wybodaeth ewch i www.sciencedirect.com a/neu www.cfsph.iastate.edu.

Dylai unrhyw un sy'n mynd i Norwy i bysgota sicrhau bod eu gêr yn cael ei lanhau ar ôl dychwelyd.

AC YN AWR AM RYWBETH HOLLOL WAHANOL......!

Os ydych yn mwynhau cerddoriaeth dda, fel fi, byddwch yn siomedig o glywed nad oes Gŵyl Gerdd Ryngwladol yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy eleni. Fodd bynnag, ar ôl diwrnod gwych ar lan yr afon - neu un heriol - peidiwch â phryderu na allwch fwynhau cerddoriaeth syfrdanol o hyd. O ganlyniad i'r pandemig mae Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn mynd yn rhithwir am y tro cyntaf yn ei hanes o 49 mlynedd. Fe'i cynhelir fel arfer yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy, ond eleni fe'i cynhelir ar wefan yr ŵyl rhwng 12 a 26 Medi. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae cyngerdd piano a soddgrwth gan Isata & Sheku Kanneh-Mason, grŵp lleisiol VOCES8, y gitarydd Craig Ogden, cerddorfa breswyl NEW Sinfonia, y pianydd Luke Jones, Ensemble Cymru a grwpiau gwerin Awen Celtica & VRï.

AWEN CELTICA

VRï.

Mae'r holl gyngherddau rhithwir yn rhad ac am ddim gyda rhoddion yn cael eu derbyn yn ddiolchgar iawn. Er eu bod yn siomedig na fydd cerddoriaeth fyw yn y gadeirlan eleni,  bydd cynnal gŵyl rithwir, efallai , yn agor y drws i gynulleidfa ehangach ar gyfer y dyfodol. Gallwch gofrestru ar gyfer cylchlythyr yr ŵyl, rhoi a gwylio’r cyngherddau yn www.nwimf.com.