Newyddion - TACHWEDD/RHAGFYR


MAE ‘DOLIG YN DOD

Anrheg berffaith - i ddarllenwyr Llyn Guides!
Daw'r canlynol o Fly Fishing & Fly Tying, trwy ganiatâd caredig y Golygydd –

 

Mae’r golygydd yn garedig wedi nodi pris gostyngol pellach i ddarllenwyr Llyn Guides ac rydym yn ddiolchgar iawn iddo. Diolch yn fawr iawn, Mark Os ydych yn dyfynnu Llyn Guides , yna’r pris cynhwysol i chi fydd £23 y copi o fewn y DU. Ar gyfer Ewrop, y pris fydd £29,50 ac i weddill y byd, £34.75. Mae’n llyfr gwych ac yn un Llawlyfr Haynes na fydd yn achosi i chi gael bysedd olewog.

NEWYDDION Y WTT.

Wrth i'r Pandemig barhau a Lloegr wedi ail-ymuno â Chyfnod Clo, gofynnais i Shaun Leonard, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth y Brithyll Gwyllt, sut y mae'r cynnydd diweddar yn y firws wedi effeithio ar y WTT. Dywedodd Shaun wrthyf,
“Aeth y WTT I mewn i Wanwyn 2020 gyda llawer iawn o waith ar y gweill a ddaeth ben yn sydyn oherwydd Covid. Heb allu mynd allan i wneud eu gwaith bu’n rhaid rhoi’r mwyafrif o’r staff ar ffyrlo cyn dychwelyd cyn gynted â phosib ar ddechrau’r Haf. Rydym bellach yn ôl ers peth amser ac yn gweithio’n hynod o galed i ddal i fyny gyda phrosiectau gwella afonydd o Cambria i Kent. Mae llu o waith yn Iwerddon heb gael ei wneud, am ei fod yn amhosib mynd yno o dir mawr Prydain ar hyn o bryd. Yng Nghymru, rydym yn parhau i eistedd ar Fforwm Pysgodfeydd Cymru, rydym wedi ymuno gyda S&TC Cymru i herio Llywodraeth Cymru ynghylch ei rheoleiddio llygredd ac yn parhau i gynnig cyngor o bell i glybiau a chymdeithasau pysgota. Gallwch gael blas o’r hyn y mae’r WTT yn ei wneud o’r wefan, www.wildtrout.org . Mae cyfnodolyn blynyddol yr Ymddiriedolaeth hefyd yn ddarlleniad diddorol a gellir ei gael fel e-lyfr yma.

Fel y mae ‘r rhan fwyaf o bysgotwyr yn gwybod, mae’r WTT yn un o’r elusennau llai, ac yn dibynnu’n drwm ar arian a godir o’i Arwerthiant blynyddol a gynhelir ym mis Mawrth. Os ydych yn gallu cynnig unrhyw i’r arwerthiant, mawr neu fach, byddai Bruno Vincent, codwr arian y WTT yn croesawu clywed gennych ar bvincent@wildtrout.org

Os gallaf ddyfynnu sefydliad arall “Every little helps”. Mae’n achos gwych a gallaf siarad o brofiad personol pan ddywedaf na fyddwch yn edifar ac mae’n siŵr y byddwch yn gwneud ffrindiau newydd fel yr wyf fi wedi’i wneud.

CARTHION YN YR 21ain GANRIF!

llyn padarn

Gellid maddau ichi am feddwl bod dyddiau systemau carthion agored wedi hen fynd yn yr unfed ganrif ar hugain Cyflwynodd papur newydd y Guardian, stori ddiddorol ar Dachwedd 6ed. Nododd y prif gynnwys bod amryw o gwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr “wedi rhyddhau carthion amrwd i draethau dwr ymdrochi bron I 3000 o weithiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn llygru’r amgylchedd ac yn peryglu iechyd y cyhoedd ….”
Mae hyn yn dilyn astudiaeth gan Surfers Against Sewage. Mae’r grŵp yn awgrymu bod llawer o bobl yn wael , yn dilyn methiant y cwmnïau dwr i ddweud bod yr arfer yn mynd i ddigwydd. Gellir gweld yr erthygl papur newydd yma

 

water

Nid yw’r carthion yn ymddangos yn unig ar y traethau - mae’ n rhaid iddynt gyrraedd yno! Rhaid meddwl tybed beth yw’r effaith ar yr amgylchedd a’n pysgod , wrth i’r carthion wneud eu taith.
Pryder penodol yw’r rhestr o’r 10 “traeth” gyda’r rhan fwyaf o’r gollyngiadau wedi eu cofnodi. Dywedaf hyn gan fod yr Afon Ddyfrdwy yng Nghymru yn chweched trwy garedigrwydd Dŵr Cymru.

AC YN OLAF, RHYWBETH HOLLOL WAHANOL!

Mae gan un o’m ffrindiau saethu, dau gi bach i’w gwerthu yng nghanol mis Rhagfyr. Mae’r wybodaeth y mae wedi’i rannu fel â chanlyn:
Maen nhw’n German Wirehaired Pointer Pups - Dau gi gwryw ar gael.
Mae’r ddau riant yn gŵn sy’n gweithio, defnyddir y fam ar gyfer saethu garw, ystelcian ceirw ac i guro. Y tad yw Troldelundens Rollo (Thomas) sy’n eiddo i Rory Major, Bryantscroft Gundogs, gweler y ddolen am wybodaeth .

Gwybodaeth am y cwn

Mae’r cŵn bach yn glir o vWD, wedi’u docio’n gyfreithlon, wedi’u cofrestru gyda’r KC, gyda microsglodyn wedi eu cael eu llyngyru ac ati cyn y byddant yn gadael am eu cartrefi Newydd ar Ragfyr 19eg. Bydd y cŵn bach yma yn addas iawn fel anifeiliaid anwes teuluol gyfeillgar gwych neu fel cŵn gweithio arbennig.

  • Y Tad
  • Y Fam
  • Y Cŵn bach


Rwy’n adnabod am y cŵn bach yma ac wedi ei gweld yn gweithio.
Os bydd y naill neu’r llall o’r cŵn bach yma o ddiddordeb i chi, cysylltwch â mi yn y lle cyntaf ar JNoel@dnetw.co.uk