Pysgota

Faint o amser sydd gennych i drefnu eich gwyliau pysgota?
Sut fedrwch broffwydo sut fydd yr amodau wedi i chi gyrraedd?
Sut fedrwch bysgota os yw'r amodau a'r tywydd yn anffafriol?
Faint o amser sydd gennych i drefnu llety addas?
Faint o amser sydd gennych i drefnu trwyddedau lleol y byddwch eu hangen?
Faint o amser sydd gennych i bysgota bob blwyddyn?

Ein nod yw eich helpu gyda atebion cadarnhaol!
Mae eich taith bysgota yn unigryw i chi. Mae’n well gennym gael grwpiau bach, fel arfer dim mwy na pedwar pysgotwr ar y tro. Mae’r trefniadau wedi eu teilwro i'ch gofynion. Bydd eich cyfarwyddiadau yn cael eu cadarnhau yn ysgrifenedig cyn i wneud unrhyw drefniadau pendant.
Ein hathroniaeth yw bod pysgota yn weithgaredd y gellir ei fwynhau drwy gydol y flwyddyn.
Gwnawn ein gorau i sicrhau hyn.
Gyda gwreiddiau Llŷn Guides yn llynnoedd mynyddig Gogledd Cymru, does dim syndod ein bod yn eu defnyddio er budd eich mwynhad pysgota.

Llwybr y Brithyll Brown. Cewch ddewis ar gyfuniad o wyth o lynnoedd o'n rhestr, yn ddibynnol ar faint o amser sydd gennych. Mae cychod ar gael ar rai o’r llynnoedd.
Mewn nifer o'r lleoliadau hyn rydym yn gallu helpu'r rhai sydd ag anabledd.
Mae taflen yn amlinellu'r cyfleoedd hyn, ar gael. (post@llynguides.co.uk)

Dewis Nentydd Bach. Rydym wedi casglu dewis o nentydd bach i’r rhai sydd gyda diddordeb mewn dilyn brithyll brown mewn dyfroedd llai. Ceir manylion mewn taflen benodol. (post@llynguides.co.uk)

Penllwyd. Efallai eich bod yn dymuno ymweliad yn ystod y gaeaf i bysgota am y penllwyd yn yr afon Ddyfrdwy. ( gweler cynigion cyfredol)

Teithiau Eraill. Wrth i 2013 ddirwyn i ben mae ein gwaith ar daith arall bron wedi ei gwblhau a pan fydd yn barod bydd y manylion yn yr adran Newyddion.

Yr Alban. Ar gyfer yr awydd i grwydro, sydd yn y rhan fwyf ohonom, fe erys y cyffro o deithio i’r gogledd am eog neu frithyll brown allan yng nghanol y wlad.
Pan fydd y cyfleoedd hyn yn codi y byddwch yn dod o hyd i fanylion yn ein adran newyddion.

Pysgota Môr. Mae’n bleser gennym i wneud y trefniadau i chi. Defnyddiwn yr Haf Aled III allan o Bwllheli. Gellir teilwro eich taith i’ch dymuniadau.
(Gweler Cyswllt Busnes)

Ac yn Olaf. Os nad yw yr hyn yr ydych yn ddymuno yn cael ei ddangos. mae croeso i chi gysylltu â ni. Nid oes unrhyw rwymedigaeth