Mae gan ffrind i mi gwn bach “Sprocker” i’w gwerthu , a byddant yn barod yng nghanol mis Tachwedd. Y ci gwryw yw “Cocker” fy ffrind o linell waed FTC da. Mae’n dweud wrthyf y bydd y cynffonau wedi ei torri, bydd y “dew claws” wedi eu tynnu, byddant meicrosglodyn wedi ei osod, byddant wedi derby neu pigaiadau cyntaf a wedi eu llyngeru.
There are
2 x geist afu
1 x ci afu
3 x ci du
1 x ast ddu
Yn y darluniau isod gelir gweld y ddau riant. Pan yn barod i adael y rhinei eu cost fydd £900 yr un. Ymholiadau difrifol yn unig i Jason ar jason.nwfc@outlook.com
O Ionawr 15fed, 2023 ni fyddwch yn gallu prynu eich trwydded pysgota EA/NRW mewn Swyddfa Bost. Dywedir , mai dim ond 14% o drwyddedi pysgota yng Nghymru (5,500 o drwyddedi) a gafodd eu prynu mewn swyddfeydd Post. Eich opsyniau fydd i’w prynu ar lein neu ffonio llinell benodol - 0344 800 5386 - dydd Llun i ddydd Gwener 0800 yb i 1800 yh.
Mae hyn yn arwydd efallai o'r newidiadau sydd yn digwydd ar hyn o bryd o fewn y Swyddfa Bost, ers iddo ddod yn gwmni masnachol yn hytrach na sefydliad sydd â phwyslais am wasanaeth cyhoeddus!
Mae Nick Measham, Prif Weithredwr Wildfish, wedi rhannu gydag aelodau mewn Cylchlythyr pam fod yr enw wedi ei newid o “Salmon& Trout Conservation” a gafodd ei sefydlu yn1903. Teimlwyd bod hyn yn ehangu apêl yr elusen ar draws ystod fwy eang. Bydd yn rhoi llwyfan i warchod eog, brithyll môr a rhywogaethau eraill yn fwy effeithiol. Os yw afon yn addas i eogiaid, meddai Nick, mae'n addas i bawb.
Gyda’r cylchlythyr daeth un o'r "Diweddariadau i Aelodau" gorau a welais, y cynnwys sy'n rhoi sylw i Sychder - y Cyfrifiad Riverfly, Ffermio Eog, - Afonydd Smart a'r Ocsiwn.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.wildfish.org
Mae Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Churchill wedi cyhoeddi bod yr Ymddiriedolaeth bellach ar agos i geisiadau unwaith eto. Mae hyn yn dilyn agor i fyny teithio tramor unwaith eto.
Am fwy o wybodaeth ewch i:- www.churchillfellowship.org
Mae hyn yn gyfle i ymgeisydd llwyddiannus deithio i unrhyw le yn y byd i astudio eu maes diddordeb. Yr unig orfodol yw rhaid bod un yn 18+ oed! Y categorïau sydd ar gael ar gyfer 2023 yw:
This year applications can be made in one of these topical themes:
Arts and communities.
Caring for our natural environment.
Children and young people with experience of care.
Climate change.
Education in schools.
Palliative and end of life care.
Physical activity for healthier lives.
Resilient economies and communities.
Rural communities.
Suicide prevention, intervention and postvention.
Tech for all.
Open theme
Applications made this year are for projects to begin from August 2023 onwards.
Yn y Ffair Gêm Cymru yn ddiweddar, a welodd 10,000 o ymwelwyr yn mynychu, dywedodd pencampwr castio'r byd Hywel Morgan, yn ogystal ag arddangosiadau dros dri diwrnod y Ffair fod y diwydiant pysgota yng Nghymru angen "esgidiau ar lawr gwlad"! O'i gymharu ag Iwerddon a'r Alban, nid oes gan Gymru sefydliad penodol i wthio twristiaeth a'r gweithgareddau gwledig y mae gan Gymru i’w cynnig. Aeth Hywel ymlaen i ddweud "Mae gennym ni afonydd o’r safon uchaf , pysgota arfordirol a llynnoedd mynydd yma am lu o rywogaethau fel brithyll y môr, brithyll brown a phenllwyd (grayling). Mae ein pysgota yn llawer mwy fforddiadwy, o'i gymharu â gweddill Prydain ac mae'n llawer symlach prynu tocynnau dydd".
Rwy’n cytuno gyda phopeth a ddywedodd Hywel (JNH)
Trwy gyd-ddigwyddiad roedd y (cyhoeddiad masnachol) Fishing News ar yr 8fed o Fedi yn rhedeg pennawd – "Mae ymchwilwyr yn cynghori pysgotwyr Cernyweg i "gofleidio twristiaeth". I ddarllen yr adroddiad llawn hwnnw ewch i bit.ly/3cAIPo1
Mae geni i ddiddordeb mewn cyhoeddi unrhyw sylwadau sydd gennych ar hyn.
Mae gan rifyn mis Hydref o Fly Fishing &Fly Tying erthygl ddiddorol iawn ble mae Shaun Leonard, Cyfarwyddwr y Wild Trout Trust, yn cael sylw. Sonia Shaun am ei farn ar wahanol agweddau ar bysgod a rheoli pysgodfeydd. Hoffais yn arbennig (a rhannaf) ei farn ar sut y dylem weld ein hafonydd -"Gyda’r gallu i bysgota daw’r fraint werthfawr o ofalu'n dda am yr afon"
Mwynhewch eich pysgota penllwyd!