Mae’r newyddion yn wir “Y Newyddion” y tro yma. Yn dilyn trafodaethau gyda’r cwmni a greodd y safwe, Delwedd, rwyf am geisio diweddaru’r dudalen yma yn fy safwe yn fisol. Y gobaith yw, y bydd y rhai sydd yn cyd rannu ein diddordebau, yn ymweld gyda’r safwe yn fwy aml. Hefyd mae darpariaeth Trydar (Twitter) yn cael ei baratoi. Bydd hyn yn golygu y gall mewnbynnau ac ymatebion fod yn fwy perthnasol i ddigwyddiadau wrth iddynt ddigwydd.
PYSGOTA AR Y MÔR
Mae Jason Owen, perchennog cwch sy’n gweithio allan o harbwr Pwllheli, yn disgwyl derbyniad o’i gwch newydd. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod bydd ganddo gwch newydd, sef catamarán Cougar i’w henwi yn syml yn HAF ALED. Mae gan y cwch newydd fwy o le ar y dec i bysgotwyr oherwydd ei bod yn catamarán a mae gan y cwch hefyd fwy o gysgod os oes angen mewn tywydd garw. Mae Jason wedi llunio rhaglen gyffrous i’r flwyddyn a gallir cael mwy o wybodaeth trwy ymweld â www.northwalesfishingcharter.com O ddiddordeb arbennig efallai byddai’r trip dau ddiwrnod i’r Iwerddon ac yn ôl gyda lle i wyth o bysgotwyr.
GWEITHDY EOG
Ar Mawrth 3ydd a’r 4ydd cynhelir cynhadledd dau ddiwrnod yn Wareham yn Dorset wedi ei drefnu gan GWCT a INMRA MorFish. Bydd y gynhadledd yn adolygu’r cynnydd mewn poblogaeth a monitro‘r eog. Rhy bell - peidiwch a phoeni am y bydd cynrychiolydd y GWCT yng Ngogledd Cymru, Rupert Bevan, yn dod a’r gynhadledd yma yn sydyn iawn ar ddydd Iau, Mawrth 5ed. Am 19.30 yng Nghastell Ruthin, bydd Bill Beaumount, uwch wyddonydd pysgodfeydd y GWCT yn rhoi sgwrs yn dilyn y gynhadledd. Cost ticed yw £20 sy’n cynnwys swper “Hot Pot”. I gysylltu gyda Rupert defnyddiwch yr e-bost rupertbev@hotmail.com
LLYN BRENIG
Wrth i Lyn Brenig baratoi am dymor newydd, yn agor ar Mawrth 14eg, mae newyddion cyffrous am newidiadau sydd i ddod. Gallir pysgota am Benhwyaid (Pike) ar blu! Bydd y pysgota ar blu am Benhwyaid o gwch yn unig a cost y drwydded fydd £15 gyda cost y cwch yn ychwanegol. Am wybodaeth llawn am brisiau, digwyddiadau a.y.b. ewch i www.llyn-brenig.co.uk/fishing neu ffoniwch 01490 420463 am ymholiadau eraill. Wrth gwrs bydd yr ŵyl pysgota penhwyaid sy’n digwydd dros bedwar diwrnod yn parhau i gael ei gynnal.
TRAED GWLYB
Os ydych wedi hen flino o’ch botsias pysgota yn gadael ychydig (neu lawer mwy) o ddŵr i mewn mae yna ddyn y gall eich helpu. Mae Diver Dave yn canolbwyntio ar drwsio botsias pysgota a gallwch gysylltu ar 07970 041452 neu ar Google “Diver Dave”. Fe ellir gweld yno beth y gall wneud i’ch helpu. Un broblem y mae’n hapus i ddelio gyda yw wellingtons (drud) sy’n gollwng! Mae llwyddiant yn dibynnu ar wneuthuriad y wellingtons.
YMDDIRIEDOLAETH BRITHYLL GWYLLT (WILD TROUT TRUST)
Rydych wedi aros am hyn a mae nawr bron yma! Mae arwerthiant y WTT yn agor ar Mawrth 3ydd. I wneud cais am unrhyw un o’r cannoedd (rhai sy’n unigryw!) o’r eitemau dylid ymweld â www.wildtrout.org a dilyn y linc i safle’r arwerthiant.
AC YN OLAF...
Unwaith eto mae Cyfoeth Naturiol Cymru (Natural Resources Wales) wedi cael eu barnu, y tro yma mewn llythyr yn nhudalen llythyrau rhifyn mis Ionawr o’r Trout & Salmon. Cwestiynodd Mr.T S Dallaghan (tud 64) os oedd ymddygiad y sefydliad yn creu "Democratiaeth neu Unbennaeth" - “Democracy or Dictatorship”.
Os ydych yn dilyn i fyny unrhyw beth o’r safwe yma os gwelwch yn dda nodwch eich ffynhonnell.