CYFOETH NATURIOL CYMRU A PHYSGOTWYR
Mae fy nghyfaill a'm cydweithiwr Allan Cuthbert, unwaith eto, wedi ailadrodd ei alwad am i bysgotwyr "ddechrau ailsefydlu perthynas waith gyda Chyfoeth Naturiol Cymru". Mae'n mynd yn ei flaen i ganmol y swyddogion yr ydym yn gweithio gyda hwy "wyneb yn wyneb". Mae apêl Allan bellach wedi ymddangos yn ei adroddiad pysgodfa Dyfrdwy a Chlwyd, yng nghylchgrawn misol Trout and Salmon, dros y misoedd diwethaf.
Mae ei gri yn un yr wyf yn ei gefnogi yn gryf. Yn wir, gwneuthum yr un pwynt mewn cyfarfod y llynedd, ar gyfer pysgotwyr yn unig, yng Nghorwen.
Yr wyf yn ei gefnogi'n llwyr yn hyn o beth.
Pan oeddem yng nghyfarfod y Grŵp Pysgota Lleol ar y cyd yn y Bala ym mis Rhagfyr y llynedd, gwnaed yr un apêl gan Miss Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'n ymddangos ein bod ein tri yn cytuno.
Fe'm hatgoffwyd o hyn gan farwolaeth John Hume, yr wythnos diwethaf. Pwy?
Os nad ydych wedi clywed amdano, roedd yn ddyn o Derry a dreuliodd ddeng mlynedd ar hugain yn straffaglu i ddod â heddwch i Ogledd Iwerddon. Heb os nac oni bai, cyfrannodd ei waith at y cynnyrch terfynol, sef cytundeb Dydd Gwener y Groglith.
Beth bynnag fo'r achos, er mwyn dod i gytundeb, rhaid cael symudiad. Mae angen i symudiad o'r fath gael ei gyplysu â goddefgarwch, dealltwriaeth a pharch, gan y naill ochr a'r llall.
Yn fachgen ifanc, tra yn Iwerddon gyda fy nheulu, gallaf gofio bodolaeth rhaniadau - hyd yn oed o fewn fy nheulu fy hun. Ni ddylid byth ganiatáu i hyn ddigwydd - ac, yn anad dim, o fewn y gweithgaredd yr ydym i gyd yn ei charu, ei mwynhau ac, yn ein gwahanol ffyrdd ein hunain, yn gweithio i wella.
Ni ddylai rhaniadau fodoli!
SEFYDLIAD YMFUDO PYSGOD Y BYD Mae'r diagram "HELP" canlynol yn ymddangos drwy ganiatâd caredig y sefydliad uchod. (www.worldfishmigrationfoundation.com) Mae'n gryno ac yn ystyrlon. Yn y newyddion ym mis Mai Mehefin soniais am ymgais o Gymru yn y Cymru yw "Gwlad y Gân"? Efallai eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich cyflyru i gyfansoddi! Mae cystadleuaeth barhaus o'r enw International Eurofishion Song Competition. Ar gyfer y gystadleuaeth cyfansoddi cân yma, gall unrhyw un gyflwyno eu ' cân cariad ' am bysgod a mudo pysgod! Mae hwn yn cau ym mis Hydref 2020. Edrychwch ar y dudalen yma i weld yr ymgeiswyr eraill: |
PANDEMIG.
Er ei bod yn ymddangos bod glan yr afon neu ymyl y llyn yn ddiogel, mae'n bwysig cofio bod y firws yn dal i fod o’n cwmpas a bod angen parhau i fod yn ofalus.
Osgowch dorfeydd lle bynnag y bo'n bosibl - cofiwch ymbellhau’n gymdeithasol - defnyddiwch gel ar eich dwylo - golchwch eich dwylo mor aml â phosibl - gwisgwch fasg (hyd yn oed os yw'n cuddio'ch wyneb golygus!) - parhewch i fod yn wyliadwrus.
Mae disgwyl i gynnydd sydyn yn yr haint ddigwydd yma ac mae’n digwydd eisoes mewn mannau eraill - ac eithrio Seland Newydd!!!!
Trwyddedau.
Mae ymchwil a wnaed gan y Gynghrair Cefn Gwlad yn dangos bod tua 142,000 o drwyddedau Asiantaeth yr Amgylchedd/CNC wedi'u gwerthu rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni. Yn dilyn hyn, pan daeth haul ar fryn ychydig yn fwy disglair, rhwng y 13eg o Fai a'r 9fed o Fehefin gwerthwyd mwy na 335,000 o drwyddedau. Cynnydd o 230% a 200,000 yn fwy nag am yr un cyfnod yn 2019. Efallai bod mwy o bysgotwyr na chefnogwyr pêl-droed o hyd? Yr hyn nad ydym yn ei wybod eto yw faint oedd yn drwyddedau eog, na faint o drwyddedau eog fydd yn cael eu prynu eleni efallai.