PANDEMIG Wrth i farwolaethau barhau, mae'r pwysau am newid hefyd yn parhau. Y cwestiwn sylfaenol fodd bynnag yw, "a yw'n ddiogel i wneud pethau? Roedd yr (ychydig) llacio rheoliadau yn Lloegr yn tynnu sylw, ar unwaith, at y ffaith bod gwahaniaethau yn parhau yn y rheoliadau sy'n bodoli yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi treulio llawer o amser yn gyrru llawer o bobl yn ôl adref, rhai oedd yn meddwl o ddifri bod ganddyn nhw hawl i ddod i ymweld gyda glannau môr Cymru! Mae’r gwahardd ar bob symudiad yn parhau gyda dim ond newidiadau bychain. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn garedig wedi rhannu trosolwg o’r gwybodaeth cyfoes ar Fai 19eg :- Mae Llywodraeth Cymru yn caniatáu pysgota yng Nghymru fel rhan o'ch ymarfer bob dydd. Dylech:
Ni ddylech deithio o Loegr i Gymru at ddibenion pysgota. Please look for link to ‘Angling’ Yma cewch hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch aros yn lleol. Cafwyd dadl ar y radio, y diwrnod o'r blaen am fynd mewn car i'ch ymarfer corfforol a physgota. Fe aeth pethau braidd yn fflamychol i ddweud y lleiaf! Rwyf i o blaid y cwestiwn symlach sef, "A oes gennych fathodyn anabledd"? Os oes gennych, fel yr awgrymwyd gan un o'r elusennau pysgota, mae'n bosibl y byddwch yn gallu mynd ychydig yn bellach, mewn cerbyd, i bysgota. Mae'r ddadl yn un sy’n dweud ei fod yn dda i'ch iechyd meddwl. Wedi dweud hynny, rhaid i'r amodau cyffredinol eraill fod yn berthnasol o hyd. |
LLYN BRENIG Yr wyf wedi cael nifer o ymholiadau ynghylch y sefyllfa bresennol o ran pysgota yn Llyn Brenig. Mae Brenig yn safle aml-weithgaredd ac, fel y mae y rhan fwyaf ohonom yn gwybod, mae ar gau ar hyn o bryd. Cefais sgwrs â'r rheolwr safle'r diwrnod o'r blaen ac mae'r sefyllfa fel y'i hamlinellir yma:- Roeddwn yn meddwl y byddech yn gwerthfawrogi diweddariad gennym ynghylch ein sefyllfa bresennol yng Nghanolfan Brenig. Mae neges swyddogol Dŵr Cymru fel a ganlyn: "Oherwydd effaith barhaus COVID-19, rydym wedi penderfynu y bydd ein safleoedd, cronfeydd dŵr a llynnoedd yn parhau ar gau dros dro i bob aelod o'r cyhoedd (gan gynnwys cerdded, hwylio, pysgota ac unrhyw dir neu weithgareddau sy'n seiliedig ar ddŵr). Nid ydym wedi gwneud y penderfyniad hwn yn ysgafn, ond fel y sylweddolwch, mae diogelu iechyd a diogelwch ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr yn parhau'n flaenoriaeth gyntaf yn ystod y cyfnod ansicr hwn Rydym yn monitro ac yn cysylltu â sefydliadau eraill er mwyn sefydlu trefn agor ddiogel a fydd yn ein galluogi i ailagor ein safleoedd pan fydd yr amser yn iawn. Tan hynny, gobeithiwn eich bod yn deall pam yr ydym wedi gwneud y penderfyniad anodd hwn". Ond er ein bod ar gau, rydym yn gweithio'n galed ar ein cynlluniau i agor, gan gynnwys sut i wneud y safle'n ddiogel ar gyfer cwsmeriaid ac ar gyfer staff. Rydym yn edrych ar system daliadau ar-lein hefyd, sy'n edrych yn addawol. Byddai'n braf cael y peiriant cerdyn awtomatig, ond rydym yn cael trafferth gyda hyn ar hyn o bryd Gallaf hefyd ddweud pan fyddwn yn agor y gatiau eto, mae'n debyg mai pysgota bydd yn un o'r gweithgareddau cyntaf i ailddechrau. Bydd mwy o fanylion a chyhoeddiadau yn dilyn, Cadwch lygad ar ein safle Facebook ar gyfer y diweddaraf gennym ni. |
HEULWEN
Mae’r Swyddfa Dywydd, i rwbio halen yn y briw (!), wedi cadarnhau ar gyfer y DU gyfan mai Ebrill 2020 yw’r cyfnod gyda mwyaf o haul erioed. Hyn, ers i gofnodion ddechrau yn 1929.
Eironig – ond rwy'n sicr bod gerddi pob pysgotwr yn daclus erbyn hyn.
CYSTADLEUAETH CELF Mae'n bleser gennyf ddangos i chi ddarn celf a gyflwynwyd gan ffrind ifanc deg oed rwy’n adnabod, sy'n byw yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd. Cefnogodd ei gyflwyniad yn ysgrifenedig, pan ddywedodd: "Diolch am y cyfle hwn. Rwyf hefyd am ddweud, er nad yw char yr Arctig hyd yn oed yn agos at ddiflannu, rwy'n dal i'ch annog i godi sbwriel mewn dŵr neu yn ymyl dŵr, fel nad yw pysgod eraill yn cael eu brifo. Diolch!" Pob lwc yn y gystadleuaeth gennym ni i gyd YMDDIRIEDOLAETH BRITHYLL GWYLLT Dymuna'r Ymddiriedolaeth Brithyll Gwyllt ddweud "Diolch yn fawr" i bawb a gefnogodd yr ocsiwn eleni, mewn cyfnod eithriadol o anodd i godi £70,000. Eithaf anhygoel, a dweud y lleiaf. Heb gymorth o'r fath, o wybod na fyddai llawer o arwerthiannau yn cael eu cymryd ar unwaith, ni fyddai digon o arian i fwrw ymlaen â gwaith yr Ymddiriedolaeth (WTT). Gwobrau Cadwraeth. Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi’i ymestyn tan Awst 31ain, 2020. Y Cyfarfod Dod at Ein Gilydd Blynyddol. Ar hyn o bryd mae hyn wedi’i drefnu ar gyfer, Medi 12fed a’r 13eg. Yn amlwg, mae hyn yn amodol ar y rheoliadau sy'n bodoli ar y pryd. Her Tri Phry. Mae'r digwyddiad codi arian trwy’r her unigryw yma wedi'i drefnu ar gyfer y 3ydd o Hydref ym mhysgodfa Meon Springs. Y dyddiad cau yw'r 20fed o Fedi. Richard Wright yn codi arian. Mae Richard yn feddyg teulu wedi ymddeol a hefyd yn hyfforddwr castio i’r GAIA. Mae’n cynnig, os ydych yn archebu sesiwn gydag ef, ac yn nodi’r WTT, y bydd yn rhoddi ei ffi i’r WTT! I dderbyn y newyddion diweddaraf ewch i www.wildtrout.org |
|
AC I GLOI Cadwch yn ddiogel yn y cyfnod anodd hwn i bob un ohonom. Edrychwch ar yr ochr ddisglair - oes mae yna un! Gallwch adfer yr holl blu ymarfer hynny o'r coed ffrwythau yn eich gardd drwy ddefnyddio ysgol gam (step ladder)! |