Cyfoeth Naturiol Cymru
Y 14eg o Dachwedd oedd y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno sylwadau i Gyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r bwriad, byddai rhai yn dweud cynigion Draconaidd, a gynhwysir mewn dogfen ymgynghori sy'n ceisio cael effaith ddifrifol ar lawer o agweddau o bysgota yng Nghymru. Mae'r protestiadau wedi bod yn niferus. Os caiff ei weithredu, fel y cynigir, awgrymir bod y cyfyngiadau yn parhau mewn grym, yn y lle cyntaf, am ddeng mlynedd. Beth bynnag yw eich barn chi, dylent gael eu cyfleu i'ch AS ac AC, yn ogystal ag unrhyw beth yr ydych chi eisoes wedi'i wneud.
Yn ogystal, mae deiseb y gallech chi ei lofnodi, ac rwyf yn ei hatgynhyrchu yma: -
Dear Friends,
Thank you for signing the petition Give Welsh Fishing Clubs and Salmon and Seatrout a Chance, can you please help once again to spread the word by forwarding the link below to your friends? Sometimes people need a little reminder before they sign and their contribution could prove vital to the success of our campaign.
In case you are unaware, there is another petition doing the rounds that contains even more draconian measures than NRWs proposals. We must therefore ensure our petition comes out on top.
600 signatures is a great effort, but we think over 1000 would ring home our message far louder. WE CAN DO THAT IF WE WORK TOGETHER!
https://you.38degrees.org.uk/petitions/give-welsh-fishing-clubs-and-salmon-and-seatrout-a-chance
Thank you very much,
Reuben Woodford
Mae gennym pob un ein barn ein hunain ond, hyd yma, nid wyf wedi clywed unrhyw un yn dweud "Am syniad da Cyfoeth Naturiol Cymru!"
PIKE FEST BRENIG
Gwelwyd yn 2017, welliant yn ansawdd y penhwyaid a gymerwyd yn ystod yr Ŵyl Penhwyaid oedd ar agor ar Dachwedd 1af. Pwysodd y trymaf, a gafodd ei wirio’n yn unol â’r rheolau, yn 26 pwys. Bu rhaid i’r ail yn y gystadleuaeth fod yn fodlon gyda 24.5 pwys (wedi'i ddilysu) - dau o'r penhwyaid gorau yn y blynyddoedd diwethaf. Peidiwch â phoeni os na chawsoch siawns eleni, bydd yr Ŵyl Penhwyaid yn dychwelyd i’r Brenig ar Dachwedd 1af 2018.
PRENTIS WEDI MYND
Yn dilyn y cyhoeddiad bod Mark Evans wedi ymuno â ni, yn newyddion y gwanwyn, rhaid imi nawr rhoi gwybod i chi, ei fod wedi penderfynu nad yw bod yn dywyswr iddo ef. Dymunwn yn dda iddo wrth iddo fynd ar drywydd gyrfa arall.
BLWYDDYN Y MÔR 2018
Bydd Pencampwriaethau Pysgota Glan Môr y Byd yn digwydd yng Ngogledd Cymru ac y cael ei gefnogi gan Ffederasiwn Pysgotwyr Môr Cymru a Sir Conwy. Cynhelir brwydr rhwng pysgotwyr môr gorau’r byd rhwng Hydref 20fed a’r 27ain, 2018, i ddod o hyd i’r tîm gorau. Dyma’r bencampwriaeth unfed ar bymtheg ar hugain i’r dynion a’r chweched ar hugain i’r merched. Bydd llawer yn manteisio ar y cyfle i ddangos beth y gallwn ei ddarparu i bysgotwyr – o lan môr i lynnoedd mynydd!
YMDDIRIEDOLAETH Y BRITHYLL GWYLLT
Yn dilyn cynnydd dramatig yn y symiau a godwyd gan arwerthiant y WTT yn gynnar yn 2017, mae cynigion i’r arwerthiant unwaith eto yn cael eu casglu’n barod ar gyfer y flwyddyn newydd. Cododd y swm yn 2016, i tua £52,000 tra gwelodd 2017, y swm hwnnw yn codi i £70,000. Yn naturiol mae meddyliau yn troi at y gobaith y bydd y swm, cyn hir iawn, yn cyrraedd chwe ffigwr! Os ydych yn meddwl y gallwch helpu drwy gyfrannu rhywbeth i’r arwerthiant, cysylltwch â’r trefnydd Denise Ashton ar dashton@wildtrout.org Yng ngeiriau rhyw siop adnabyddus "mae pob ychydig yn helpu".
FFAIR CEFN GWLAD RHUG
Yn dilyn llwyddiant y ffair cefn gwlad gyntaf i'w gynnal ar Ystâd Rhug yn 2017 bydd y ffair yn dychwelyd yn 2018. Yn amlwg, bydd y pwyllgor yn adeiladu ar lwyddiant 2017 ac yn ceisio denu mwy o ymwelwyr i’r sioe. Nodwch y digwyddiad yn eich dyddiadur nawr! Bydd y sioe yn digwydd ar ddydd Sadwrn y 7fed a dydd Sul yr 8fed o Orffennaf 2018.