Cwestiynau Cyffredin

Allwch chi drefnu llety?
Gallwn, trwy yrru rhestr o lety lleol addas, neu archebu llety os y bydd gennym gyfarwyddiadau clir a phenodol gennych. Yn yr achos olaf bydd y gwestai yn gyfrifol am unrhyw gostau cysylltiedig.

A fyddaf yn gwybod yn union yr hyn yr wyf yn dalu?
Bydd eich cyfarwyddiadau yn cael eu cadarnhau yn ysgrifenedig cyn i wneud unrhyw drefniadau pendant. Cewch drawsdoriad o’r gost. I gadarnhau trefniadau bydd gofyn i chi yrru copi yn ôl, gyda llofnod i arwyddo eich bod yn derbyn y cytundeb.

Oes gennych unrhyw ddiddordeb mewn gwerthu offer pysgota?
Na, nid oes gan hyn unrhyw ddiddordeb i ni. Rydym yn gwybod beth sy’n ei plesio, ac yn achlysurol rydym yn dylunio neu addasu offer os nad oes rhywbeth tebyg ar y farchnad.

Rydych yn cyfeirio at frithyll brown “gwyllt” – ydyn nhw’n wirioneddol wyllt?
Ydyn. Rydym yn defnyddio llynnoedd sy’n gynefin i frithyll brown gwyllt dilys. Mae rhai o’r llynnoedd mynydd yr ydym yn ddefnyddio yn llawer rhy anghysbell i gael rhaglen stocio i wahanol rywogaethau o frithyll. Gellir gweld y manylion ar y taflenni gwybodaeth, sy’n cynnwys cyfeirnod grid OS.

Allwch chi ddarparu ar gyfer yr anabl?
Ceisiwn helpu pysgotwyr anabl. Mae rhai lleoliadau y gellir eu defnyddio gan y rhai sydd ag anableddau. Mewn un lleoliad, ar fin ffordd ceir cychod sy’n cymeryd cadeiriau olwyn (wheely boats) . Mae lleoliadau eraill, os gall y pysgotwr fynd i mewn i’r cwch gallwn fynd a’r pysgotwr at y cwch! Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth sy'n gofyn am drafodaeth i benderfynu sut y gallwn helpu. Rydym yn hapus i wneud hyn heb unrhyw rwymedigaeth.

A allwch ddarparu pysgota drwy gydol y flwyddyn?
Credwn fod pysgota yn weithgaredd cydol y flwyddyn. Wrth gwrs , weithiau bydd y tywydd yn gorfodi i ni ohirio. Er enghraifft, os ydym wedi trefnu pysgota Penllwyd a mae’r afon mewn llifeiriant, yna mae hyn yn amhosib ac fe allai fod yn beryglus. Mae angen cadw cyswllt agos mewn sefyllfa fel hyn.

Cafwyd beirniadaeth cyhoeddus yn ddiweddar bod gillies ac arweinyddion yn gadael pysgotwyr ac yn dod yn ôl rhai oriau yn hwyrach, Ydych chi yn aros trwy’r dydd?
Ydym. Efallai y bydd adegau byr pan na fydd yr arweinydd wrth eich ochr. Esiamplau o hyn fyddai pan fydd yn paratoi cinio canol dydd gerllaw, neu os fydd mwy nag un pysgotwr efallai y bydd gyda pysgotwr arall. Fel arfer bydd gennych ddefnydd o radio bersonol, hawdd ei defnyddio trwy’r dydd.

Ydych chi’n dysgu pysgota?
Na, ein nod yw gwneud y mwyaf o fwynhad y pysgotwr wrth ei gael ar y dwr yn pysgota. Os oes achlysur pan fo angen hyfforddiant ar unigolyn i ddechrau pysgota neu fod unigolyn yn dymuno cael ei hyfforddi i wella unrhyw agwedd ar eu techneg, yna rydym yn hapus i wneud trefniadau gyda hyfforddwr gyda’r cymwysterau priodol. Os oes digon o alw rydym yn hapus i drefnu gweithdy i wella techneg.