Llyn Guides

IZAAK WALTON 1593 – 1683
“Angling may be said to be so like the mathematics, that it can never be fully learnt”
The Compleat Angler (1653)

Fel Izaak Walton, credwn fod pysgota yn daith barhaus o ddarganfod. Er na allwn sicrhau perffeithrwydd pysgota, fe wnawn ein gorau i gyflawni hapusrwydd pysgota.

Ein cartref yw Pen Llŷn

Noel Sea

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


J. NOEL HULMSTON.

Noel Hulmston, sy'n byw ym Mhen Llŷn, sy'n rhedeg Llŷn Guides. Mae ganddo ddiddordeb gydol oes yng nghefn gwlad a mannau anghysbell wedi ei gyfuno gyda gweithgareddau pysgota a saethu dros y blynyddoedd. Roedd ennill gwobr y British Association for Shooting and Conservation sef y Stanley Duncan Award am gadwraeth ym mlwyddyn BASC yn un o'r uchafbwyntiau. Un o'i atgofion cyntaf am bysgota oedd gyda lein a phin wedi ei phlygu ar ffon bambŵ. Yr abwyd oedd abwyd arferol plentyn sef darn o fara wedi ei wasgu. Roedd y dechneg gyda’r dull sylfaenol yma yn syml iawn – gwyliwch y pysgodyn yn dal yr abwyd, daliwch y pysgodyn -techneg a ddefnyddiwyd gan yr Indiaid Americanaidd brodorol ers canrifoedd. Daeth anturiaethau pellach ar gefn beic i ddilyn, yng nghyflifiad afonydd Dyfrdwy ac Alyn. Y rhywogaeth a dargedwyd ar y teithiau oedd lleden.
Daeth brithyll yn ddiddordeb pan ddangosodd ffrind teuluol frithyll brown o faint da, wedi ei ddal yn yr afon gyfagos i’r pentref. Datblygodd ei ddiddordeb mewn dyfroedd symudol pan aeth gyda ffrind i'w dad i bysgota am eog ar yr Afon Ddyfrdwy. Ers hyn mae Noel wedi mwynhau pysgota mewn llawer o fannau gwahanol iawn gan gynnwys Awstralia, Iwerddon, Sgandinafia ac America. Mae pysgota rhew yn UDA a Sgandinafia, yn weithgaredd heriol, er yn un oer iawn. Mae pysgota afonydd am "catfish" yn yr UDA yn parhau i fod o ddiddordeb mawr iddo.

Noel

Wedi cymryd ffrindiau i bysgota yn y mynyddoedd am rai blynyddoedd, cafodd ei berswadio i sicrhau bod y profiadau yma ar gael yn fwy cyffredinol a datblygodd Llŷn Guides.

Ffefrynnau Noel:

Pysgod yw bwyta – catfish.
Pysgota troell bluf – sewin.
Pysgota plu -brithyll
Hoff fan pysgota – Assynt (Sutherland)

SUT GALLWN EICH HELPU?

Gyda'r defnydd cynyddol o'r rhyngrwyd, gellid maddau ichi am feddwl nad yw cael arweinydd yn angenrheidiol mwyach! Yn amlwg byddem yn dadlau yn erbyn y safbwynt hwn. Mae yna sawl ffordd ble gwelwch wasanaethau arwain yn fanteisiol - arbed amser yn ystod eich diwrnod pysgota, archebu trwyddedau a gwybod lle mae pysgod yn hoff cuddio, ac ati. Yn ogystal mae‘r profiad a gafwyd ar gael i chi i’r dyfodol. Mae yna rai pethau nad fyddech efallai yn gallu eu mwynhau fel arall, er enghraifft rhai o’n llynnoedd mynydd, pysgota draenogiaid y môr gyda’r plu– gwybod lle mae’r mannau llwyddiannus, dod o hyd i ddarnau da o i ddal penllwyd, ac ati. Yn ogystal rydym yn hapus i fynd gyda chi i ddyfroedd pellach sy’n gyfarwydd i ni.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffordd rydym yn edrych ar ôl ein gwesteion. Cysylltwch hyn gyda’n hystod resymol o ffioedd a gallwch edrych ymlaen at dreulio amser pleserus yn ein cwmni. Yn naturiol os oes gennych gwestiwn neu ryw ddiddordeb penodol, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i drafod hyn.

Mae Llŷn Guides yn gefnogwyr brwd i waith y Wild Trout Trust ym Mhrydain a'r gymdeithas cadwraeth Americanaidd sy'n cyfateb, sef Trout Unlimited. Cynigir gostyngiad o 10% i aelodau o’r ddau sefydliad os ydynt yn defnyddio gwasanaeth Llŷn Guides.