Newyddion - Awst/Medi 2015

pysgotwr Yn dilyn haf hynod o brysur mae nawr yn hen bryd i ddal i fyny gyda newyddion.
Rydym yn falch iawn o fedru cyhoeddi bod Mark Evans o Flaenau Ffestiniog wedi derbyn yn gwahoddiad i ymuno gyda Llyn Guides. Am ei fod wedi bod yn pysgota ers yn blentyn bach mae’n bysgotwr profiadol iawn. Mae’n bysgotwr plu rhyngwladol ac yn aelod o dîm Pysgota Plu Cymru 2015 ac ar hyn o bryd, yn cymryd rhan yn y treialu i dîm 2016. Mae yn uchel ei barch yn ei swydd fel ceidwad yn Llyn Brenig. Mae ganddo, yn barod, gymhwyster sylfaenol fel hyfforddwr genweirio yn ogystal â thystysgrif cymorth cyntaf a gyda CRB clir a chyfoes. Mae, ar hyn o bryd, yn gweithio tuag at ei gymhwyster APGAI. Edrychwn ymlaen at ddigwyddiadau cyffrous yn y dyfodol – cofiwch i alw i mewn yma yn rheolaidd.

CPWF
Wrth barhau â'r frwydr i warchod a chadw pysgodfeydd Cymru bu’r corff gwirfoddol Yr Ymgyrch Diogelu Pysgodfeydd Cymru (Campaign To Protect Welsh Fisheries) yn aflwyddiannus yn ei gais i dderbyn cyllid gan y Trout & Salmon. Er y bydd y gwaith yn parhau, mae hyn yn amlwg yn mynd i wneud yn anodd cael adolygiad lefel uchel o'r gwahanol adroddiadau y dibynnir arnynt gan Gyfoeth Naturiol Cymru, wrth ddod i benderfyniad i gau y rhan fwyaf o ddeorfeydd yng Nghymru.

YR YMDDIRIEDOLAETH GENWEIRIO (THE ANGLING TRUST)
Yr Ymddiriedolaeth Genweirio oedd y sefydliad buddugol i’r wyth cynnig gan Trout & Salmon ar gyfer cyllid i hybu'r frwydr i amddiffyn eog gwyllt. Yn adlewyrchu’r pryder am yr eog gwyllt ac a ddaeth yn yr ail safle oedd South West Rivers Association & North Atlantic Salmon Fund. Mae’r Ymddiriedolaeth Genweirio wedi addo i roi arian cyfatebol i bob punt a gaiff ei roi gan unrhyw un sy’n cefnogi eu gwaith i arbed yr eog yn ariannol. www.anglingtrust.net

FISH LEGAL

Cangen gyfreithiol yr Ymddiriedolaeth Genweirio yw Fish Legal. Mae hwn yn gorff aelodaeth sy'n parhau i weithio'n galed i helpu i ddiogelu buddiannau aelodau. Yng Nghymru, mae'r sefydliad yn gweithio ar bum prif fater, yn cynnwys Llyn Padarn. Yn ogystal, maent yn gwylio’n frwd y cynigion ar gyfer pŵer lagŵn a awgrymwyd ar gyfer Bae Abertawe a Bae Colwyn. Mae'r rhan fwyaf o glybiau a chymdeithasau nawr yn ymuno i gefnogi gwaith. Heb fod mewn clwb neu gymdeithas? Gallwch ymuno am gyn lleied â £ 25! Ewch i www.fishlegal.net

AELODAU SYNDICET GWAG
Mae gan Clwb Syndicet Dydd Llun cwpl o swyddi gwag ar hyn o bryd. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â Noel ar llynguides@dnetw.co.uk. Mae gan y Clwb ddarn o bysgota ar yr afon Tanat, gyda rhywfaint o rannu cyfatebol gyda Chymdeithas Pysgotwyr y Bala a Clwb Dinbych a Chlwyd.

POTSIO YN Y MÔR DWFN
Yn ystod yr 80au treuliais ychydig o amser gyda’r bechgyn Diogelu Pysgodfeydd Iwerddon. Er y gallent arfer eu pwerau hyd at 200 milltir oddi ar arfordir Iwerddon nid oeddent yn gallu atal llongau pysgota eogiaid masnachol mawr oedd yn gweithredu trwy "potsian". Roedd 10,000 llath o rwydo yn cael eu disgyn i ddyfnder o 90 troedfedd a’u gosod yn llwybr dychwelyd yr eog. Roeddynt yn derbyn gofal gan dair llong treillio ac roeddynt yn anghyffyrddadwy. Soniaf am hyn am ddau reswm (1) mae hyn yn ac wedi cael mwy o effaith ar ein heogiaid nad yw neb yn sylweddoli a (2) mae potsio masnachol yn parhau hyd heddiw. Mae rhestr ryngwladol o longau treillio dan waharddiad sy'n gyfrifol am fusnes byd-eang gwerth $10 biliwn mewn gwerthiant blynyddol! Ymhlith y pysgod a gymerir mae’r eog. Mae gan Interpol hysbysiad Porffor (hy Most Wanted List) yn bodoli am bum llong gydag un ohonynt bellach wedi ei suddo, ond mae llywodraethau yn amharod i ymrwymo arian i ddatrys y broblem hon. Pam ddim?

YMCHWYDD STORM
Erioed wedi cael eich dal allan gan symudiad llanw annisgwyl nad ydych wedi'i rhagweld? Mae'n frawychus pan fydd hyn yn digwydd - llais profiad! Efallai i chi gam-ddarllen eich tablau llanw, neu gallai fod wedi bod yn ymchwydd storm? Erbyn hyn, gallwch wirio ymlaen llaw drwy ymweld â www.ntslf.org Cadwch yn ddiogel, os gwelwch yn dda!

Os ydych yn dilyn i fyny unrhyw beth o’r safwe yma os gwelwch yn dda nodwch eich ffynhonnell.