Newyddion - Gorffennaf/Awst 2016

Absenoldeb!
Ymddiheuraf nad oes unrhyw newyddion wedi bod ar gael ers rhai misoedd. Roeddem yn teithio i’r gorllewin ar draws yr Unol Daleithiau cyn cyrraedd Vancouver. Taith oedd hon i ddal i fyny gydag theulu a ffrindiau a hefyd siawns i wneud ffrindiau newydd.

Mis Cenedlaethol Pysgota Plu
Mae hyn yn digwydd rhwng Gorffennaf 27ain a’r 29ain o Awst 2016. Pwrpas yr achlysur yw ceisio cael pob aelod o’r teulu i gael ymgais ar bysgota. Gallaf nodi drwy brofiad y bod pysgota yn weithgaredd y gellir yn wir rannu, gydag wyrion yn pysgota gyda’r neiniau a’r teidiau, yn aml gyda, mwy o lwyddiant! Cefnogir y digwyddiad yma gan amryw o unigolion a sefydliadau. Trwy gydweithrediad mae llyfryn bach diddorol wedi eu greu sy’n cyflwyno gwybodaeth ddigonol i bysgotwyr newydd neu rhai sydd wedi “ymddeol” o bysgota.
Am fwy o wybodaeth gweler www.nationalfishingmonth.com

Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
Mae Pysgodfeydd Mewndirol Iwerddon, ar ôl derbyn y dasg gan yr Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd, wedi cynnal arolwg yn 2014 o stociau pysgod / ansawdd dŵr ym mhob corff dŵr. Mae’r adroddiad sydd ar gael o’r safwe isod, yn ddiddorol i’w ddarllen ym mha bynnag wlad yr ydych yn byw ynddi. Y rhywogaeth fwyaf cyffredin oedd y llysywen (91%), y gostyngiad yn rhywogaeth hon wedi bod yn destun pryder mewn llawer o ardaloedd eraill. Y brithyll oedd yr ail rywogaeth fwyaf cyffredin (81%). O ddiddordeb arbennig oedd y darganfyddiad bod draenogiaid (perch) mewn llyn lle nad oeddynt i’w cael yn flaenorol. Mae hyn wedi digwydd mewn mannau anghysbell eraill, heb achos amlwg yn cael ei ddarganfod. Yn New South Wales mae draenogiaid wedi cael eu rhestru fel "Dosbarth 1 o bysgod gwenwynig". Mae arolygiadau rheolaidd, er mwyn darparu cefndir gwyddonol i gymharu canlyniadau, wedi cael eu cynnal ers 2007. Mae 60% o safleoedd afonydd yn cael eu dosbarthu fel bod â statws "dda" neu'n well. I chwilio am gopi - cliciwch yma

Brithyll yn Iwerddon
Mae'r cyhoeddiad rhagorol a ysgrifennwyd gan Dr Martin O'Grady et al., yn angenrheidiol i silff lyfrau unrhyw bysgotwr brithyll. Nid yn unig mae'n ddiddorol ac yn afaelgar, ond gallech ei ddefnyddio fel llawlyfr i ymdrin â materion yn ymwneud â brithyll. Mae'r darluniau yn wych. Rwyf yn synnu nad yw, ers ei gyhoeddiad yn 2008, wedi dod yn fwy poblogaidd! I chwilio am gopi - cliciwch yma
Nid oes llawer o bwynt crybwyll y pris gyda'r gyfradd gyfnewid Ewro is - digon yw dweud ei fod yn rhesymol ac yn werth chweil!

Stocio neu Ddim?
Taten boeth os bu un erioed! Yn ystod fy siwrne ar draws yr Unol Daleithiau fe gefais wybodaeth bellach ar y stocio a pholisïau stocio yno. Rwyf yn coladu hyn mewn tudalen o nodiadau. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb, yna cysylltwch â mi gydag e-bost ac fe fyddaf yn hapus i rannu’r rhain gyda’ch chi. Gallai hyn wneud sail i gais ar gyfer Cymrodoriaeth Churchill yn 2017. Mae ceisiadau nawr ar agor.
Gweler : www.wcmt.org.uk

Brexit.
Wrth i ni aros i gasglu mwy o wybodaeth am y canlyniadau neu'r manteision o’r penderfyniad i dynnu'n allan o'r Undeb Ewropeaidd, un peth sy’n croesi’r meddwl yw, "A fydd hynny’n golygu y gallwn ni, fel gwlad tu allan i Ewrop, ai ymweld gyda’r rheolau llym a osodwyd gan Ewrop, mewn perthynas â physgota ysbinbysg y môr (sea bass) "? Er fy mod yn credu y dylem bob amser gymryd camau doeth i warchod ein ysbinbysg y môr, mae’r cyfyngiadau presennol yn tueddu i hedfan yn wyneb y dystiolaeth mewn perthynas â stociau’r rhywogaeth. Mwy yn y man.

Potsio.
Nid yw'n syndod bod y cwestiwn o ba mor ddrwg yw potsio yng Nghymru yn parhau i rygnu’n ymlaen. Mae rhifyn mis Ebrill o’r Trout & Salmon wedi cyhoeddi cyfweliad gydag Emyr Lewis, un o bysgotwr mwyaf profiadol Cymru. Cyn ymddeol, roedd hefyd wedi gwneud ei farc proffesiynol fel beili ac arolygydd pysgodfeydd. Awgrymodd Emyr fod potsio yng Nghymru yn parhau i fod yn digwydd ar draws pob dalgylch casglu dŵr. Mae rhifyn Mehefin 2016 o’r un cylchgrawn yn cario erthygl gan Peter Gough, arbenigwr pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Awgrymodd Peter nad oes "dim tystiolaeth bod y potsio ar raddfa fawr y degawdau blaenorol yn bodoli mwyach". Beth yw'r sefyllfa go iawn? Mae un peth yn sicr, os yw yn parhau, ni fydd byth yn cael ei ddarganfod heb arsylwi a chasglu gwybodaeth. Os byddwch yn gweld rhywbeth, yr ydych yn credu i fod yn amheus, mae'n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod amdano. Peidiwch â chymryd rhan mewn gwrthdaro - gallai fod yn beryglus. Rhowch wybod amdano i NRW ar 0800 807 060.
Ond ychydig o newyddion da, mae erlyniad a ddygwyd gan NRW ar y gweill yn dilyn camau ar yr Afon Dyfi. Mae ar hyn o bryd wedi ei ohirio gan y llys hyd nes y 5ed o Awst.

Monday Club Syndicate.
Mae lle i wialen arall neu ddwy i ymuno â'r Monday Club Fishing Syndicate. Am fanylion cysylltwch â mi ar llynguides@dnetw.co.uk neu ffoniwch fi ar 01758 721654.